Newyddion S4C

Achos 'Eunuch Maker': Carcharu tri o Gymru fu'n rhan o gynllwyn i gyflawni niwed corfforol difrifol

09/05/2024
S4C

Rhybudd - Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid.

Mae grŵp o saith o ddynion, gan gynnwys tri o Gymru, a fu’n rhan o gynllwyn i dorri darnau o gyrff dioddefwyr wedi derbyn dedfrydau sylweddol o garchar.

Cafodd y dynion eu dedfrydu yn llys yr Old Bailey ddydd Iau ar ôl i cyfaddef cynllwynio i gyflawni niwed corfforol difrifol.

Roedd yr achos yn ymwneud â 13 o ddioddefwyr, yr ieuengaf ohonynt yn 16 oed.

Cafodd Janus Atkin, 38, o Gasnewydd, oedd wedi bod yn cwblhau cwrs milfeddygol, ei garcharu am 12 mlynedd.

Cafodd David Carruthers 61, ac Ashley Williams, 32, oedd hefyd o Gasnewydd eu carcharu am 11 mlynedd a phedair blynedd a chwe mis.

Clywodd y llys bod y saith o ddynion yn rhan o gynllwyn i dorri orgnnau rhywiol, gan gynnwys sbaddu dynion a chynnal gweithredoedd “erchyll” eraill i addasu cyrff pobl ar raddfa ddigynsail.

Cafodd y gweithdroedd eu ffilmio a’u postio ar wefan Eunuch Maker un o’r diffinyddion, Marius Gustavson a oedd ar ei ennill o £300,000 o ganlyniad rhwng 2017 a 2021.

Talodd tua 22,000 o danysgrifwyr i gael mynediad i fideos ar wefan Eunuch Maker, gyda lefelau aelodaeth amrywiol o “am ddim” i “VIP” a gostiodd £100.

Clywodd y llys fod yna “dystiolaeth o ganibaliaeth” a bod Gustavson wedi coginio “yr hyn oedd yn ymddangos yn geilliau dynol” a’u bwyta.

Roedd hefyd wedi cadw rhannau eraill o’r corff fel “tlysau”, meddai’r Barnwr Mark Lucraft KC.

Cyfaddefodd Gustavson, 46, o Haringey, gogledd Llundain, gyhuddiadau gan gynnwys cynllwynio i gyflawni niwed corfforol difrifol.

Ddydd Iau fe wnaeth y Barnwr Lucraft ei ddedfrydu i oes gyda lleisafswm o 22 mlynedd.

Dywedodd fod Gustavson wedi bod yn feistr ar y fenter “erchyll”, “ar raddfa fawr” a “hynod o beryglus”.

 “Rwy’n gwbl fodlon bod cymhelliad pawb a gymerodd ran yn gymysgedd o foddhad rhywiol yn ogystal â rywfaint o wobr ariannol,” meddai.

Dedfrydau eraill

Cafodd Peter Wates, 67, o Purley, Surrey, cyn-aelod wedi ymddeol o Gymdeithas Frenhinol y Cemegwyr, ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.

Cafodd Ion Ciucur, 30, o Gretna, yr Alban, bum mlynedd ac wyth mis o garchar, a chafodd Stefan Scharf, 61, heb gyfeiriad parhaol, ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.

Ym mis Ionawr, cafodd tri dyn eu dedfrydu ar ôl cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol i Gustavson.

Cafodd Damien Byrnes, 36, o ogledd Llundain, ei garcharu am bum mlynedd am dorri pidyn Marius Gustavson gyda chyllell gegin gan ffilmio'r weithred yn ei gartref ar Chwefror 18 2017.

Cafodd Jacob Crimi-Appleby, 23, o Epsom yn Surrey, ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis am rewi coes Gustavson gan arwain at yr angen iddo gael ei thorri i ffwrdd ym mis Chwefror 2019.

Derbyniodd y nyrs Nathan Arnold, 48, o Dde Kensington, gorllewin Llundain, ddedfryd ohiriedig o ddwy flynedd am gael gwared yn rhannol ar deth Gustavson gyda sgalpel yn ystod haf 2019.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Cymorth S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.