Newyddion S4C

Cymry yn rhan o ymarferion enfawr NATO yn nwyrain Ewrop

09/05/2024

Cymry yn rhan o ymarferion enfawr NATO yn nwyrain Ewrop

Mewn coedwig ym mherfeddion Gwlad Pwyl mae swn saethu yn tarfu ar y tawelwch. I'r dwyrain, yn Wcrain, mae 'na ryfel gwaedlyd ond ymarfer mae'r milwyr yma fel rhan o gynghrair milwrol NATO.

"Dyna'r ffordd mae NATO yn gweithio a phawb yn gwneud promise. Os oes unrhyw beth yn digwydd mewn Ewrop, bydd pawb yna mewn amser.

"Ni'n dangos i Poland bod ni'n medru gwneud hwnna."

Pa mor barod y'ch chi?

"Ni'n eitha parod a phawb wedi dod drosodd efo ddim problemau. Mae'n neis i weld cyn gymaint wedi dod drosodd."

Fel rhan o'r ymarfer, mae 800 o gerbydau wedi'u symud i Wlad Pwyl. Exercise Immediate Response yw'r enw ar yr ymarfer yma.

Mae'n dangos bod y milwyr yn barod i ymateb yn gyflym i unrhyw fygythiad. Mae'n rhan o'r ymarferion mwyaf gan NATO ers diwedd y Rhyfel Oer.

Unwaith eto, Rwsia yw'r bwgan mawr. Ers bron i 20 mlynedd, mae Terry o Fynytho yn filwr. Mae'n dweud bod dangos grym milwrol NATO i'r byd yn bwysig.

"Ni'n gwybod pam ni'n gweithio efo'r Americanwyr, Gwlad Pwyl a NATO. Ni'n barod i be bynnag sy'n mynd i ddigwydd. Mae pobl yn medru gweld bod ni'n gallu dod drosodd ar ffasiwn scale. Mae'n bwysig uffernol."

Petai Putin yn ehangu ei orwelion byddwch chi ar flaen y gad mewn tanciau yn mynd ben ben a'r Rwsiaid.

"Dyw hi ddim yn secret o gwbl a dyna pam ni yma ac yn ymarfer. Maen nhw medru gweld pam dylai nhw ddim fygwth at y ffasiwn scale.

"Pan ni'n gweithio hefo Gwlad Pwyl a'r gwledydd yn NATO gallen nhw weld pam ddylen nhw ddim gwneud pethau."

Cynghrair amddiffynnol yw NATO yw neges uwch-swyddogion yma. Er fod pwyslais ar ddangos cryfder, mae nerfusrwydd yn profocio Rwsia.

"It would be wrong for me to stand here and say that this exercise is not going on in the context of Ukraine.

"As soldiers, we stand in solidarity with the brave Ukranians, but the purpose of this exercise as NATO has always done is to use demanding exercises like this to demonstrate the capabilities of it as a defensive alliance.

"If the by-product reassures people that NATO is as ambitious as ever then that's a good thing."

Does dim bygythiad uniongyrchol i wledydd NATO ar hyn o bryd, ond mae maint yr ymarferion mewn gwlad sy'n ffinio ag Wcrain yn adrodd ei stori ei hun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.