Newyddion S4C

Ymateb cymysg i'r Senedd yn Sir Gar wrth nodi 25 mlynedd

09/05/2024

Ymateb cymysg i'r Senedd yn Sir Gar wrth nodi 25 mlynedd

Ydach chi'n trio dweud mewn rhyw fath o cod annelwig bod y mwyafrif yn debyg o fod yn fwy na hynny i'r 'Ie' yn Sir Gar?

Yr ateb syml i hynna, Dewi, ydy ydwyf.

Refferendwm 1997 a'r rhan fach chwaraeais fel gohebydd ar y noson. Dwy flynedd yn ddiweddarach, union chwarter canrif yn ôl a dyma i chi ddarn bach o hanes.

This opening marks a new direction in the way Wales is governed.

Un o brif amcanion sefydlu'r Cynulliad yn y lle cyntaf oedd sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn nes at y bobl a chamau gwleidyddol yn cael eu cymryd ar ran y bobl. Gyda hynny erbyn hyn ym maes addysg, trafnidiaeth a llu o feysydd eraill gan gynnwys amaeth. Wnaethon ni'r penderfyniad cywir i gael Cynulliad?

"Do, ond fi wedi cael siom ynddyn nhw. Maen nhw'n cau ffarmo lawr a thwristiaeth ac mae'n dorcalonnus. Dydyn nhw ddim yn bobl busnes."

Ond ydy hi'n bwysig cael Llywodraeth yng Nghaerdydd?

"Oes, ond mae eisiau newid ei liw e! Dw i'n eistedd ar y ffens os ydy hi'n peth da ai beidio yn enwedig efo'r ffordd mae'r taliadau newydd yn dod i ffermwyr."

Ody hi'n bwysig o hyd bod gyda ni Lywodraeth Cymru?

"Ody, fi'n meddwl bod e ond 'sdim eisiau rhagor yn y Cynulliad. Maen nhw eisiau 30 ecstra ond 'sdim eisiau fe. Pwy sy'n talu? Siort ni!"

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae gan y wlad Lywodraeth sy'n gweithio ar ran pobl Cymru. Mae wedi arwain y ffordd gyda pholisiau blaengar a datganoli sydd i ddiolch am hynny.

" 'Na'r peth gwaethaf sy 'di dod i Gymru erioed." 

Pam y'ch chi'n gweud hynny?

"Maen nhw 'di sarnu cefn gwlad. O Fart Castell Newydd Emlyn i Gaerfyrddin."

Yn Sir Gar, gyda 65.5% o'r bleidlais o blaid sefydlu'r Cynulliad y garfan 'Ie' enillodd y dydd yn y Refferendwm hanesyddol hwnnw. Roedd y cyfrif hollbwysig ar y noson honno yma yn Ysgol Bro Myrddin ond beth yw barn y disgyblion presennol ynglŷn â'r sefydliad?

"Os ydym am fodoli fel cenedl ddilys rhaid i ni gael Senedd i ni cael ein cynrychioli fel dinasyddion. Hebddo fe, byddai pobl yn tanseilio bodolaeth y genedl yn gyfan gwbl a'r iaith a'r diwylliant.

"Dw i'n credu bod e'n hanfodol. Mae rhai pobl yn siomedig gyda'r polisiau sydd wedi'u creu."

Sut byddech chi'n ymateb i'w pryderon a'u cwynion?

"Mae pobl yn cwyno ond gall pethau bod yn waeth o dan San Steffan achos dydyn nhw ddim yn priodoli ein bobl. Mae Llywodraeth ni yn gallu amddiffyn ni a beth i ni'n moyn. Dw i'n credu ar y cyfan, maen nhw'n galonogol i'r ochr 'Na'."

Roedd Felix Aubel yn un wnaeth ymgyrchu yn erbyn datganoli ond yw e'n dal i barhau i afael yn y daliadau hynny?

"O'n i'n ofni byddai sefydlu Cynulliad yng Nghymru yn gwanhau'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Deyrnas Gyfunol ac yn gwanhau ein gwasanaethau cyhoeddus.

"O safbwynt hynny, beth o'n i'n darogan, os o'dd pobl yn pleidleisio dros sefydlu Cynulliad yng Nghymru mae wedi digwydd gwaetha'r modd.

"Mae gwleidyddiaeth yn Lloegr a Chymru wedi symud ymlaen. Mae'r Senedd 'da ni a rhaid sicrhau bod datganoli'n gweithio er lles pobl Cymru ar gyfer y dyfodol."

Ymlaen a'r daith drwy Sir Gar, ac wrth gyrraedd tref Llandeilo, cyfle i holi am y berthynas sydd erbyn hyn rhwng y sefydliad ym Mae Caerdydd a'r bobl.

"Sa i'n meddwl lot amdanyn nhw a dim yn trystio neb sy' mewn 'na."

Chi'n meddwl bod nhw'n gwneud gwaith da?

"Gallen i gytuno ac anghytuno hefyd achos mae pawb a'u barn eu hunan."

Chi'n credu dyle fod Senedd?

"Ydw, fi'n credu. Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Senedd erbyn heddiw."

Y polisiau i rai yn amhoblogaidd, ond i eraill, mae'r sefydliad wedi codi ymwybyddiaeth yn rhyngwladol o'r genedl fach hon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.