Newyddion S4C

25 mlynedd o'r Senedd: 'Angen gwneud mwy yn y gogledd'

09/05/2024

25 mlynedd o'r Senedd: 'Angen gwneud mwy yn y gogledd'

O gopa'r A470, mae'r lon i Fae Caerdydd yn un hir a throellog. Mae stamp ac ôl Llywodraeth Cymru i weld, ond yma'n Llandudno, does 'na fawr awydd dathlu.

"Ni 'di cael 25 mlynedd o'r Blaid Lafur ac mae Cymru mewn stad. Mae eisiau edrych ar y Gwasanaeth Iechyd yn gyfan gwbl.

"Mae gormod yn dioddef a gormod yn disgwyl am amser.

"Mae eisiau nhw wneud mwy i'r gogledd achos maen nhw wedi anghofio ni."

Beth yw'r pethau sy'n poeni chi?

"Dw i'n dod o Ynys Môn. Y pontydd a'r traffig. Ti 'di weld y traffig ar y bont?" 

Chi eisiau gweld pont arall?

"Pont arall a'r Wylfa Newydd sy wedi cael ei anghofio. Ni eisiau gwell lonydd a gwneud mwy o sylw i'r bobl ifanc sy yma."

Cymorth i'r genhedlaeth nesaf sydd ei angen felly, ond gyda phoblogaeth yn heneiddio, mae plesio pawb yn her. Ond dros gyfnod o chwarter canrif mi oedd 'na obaith bod y sefydliad yn cynnig dyfodol newydd i Gymru.

"Ofn a dychryn oedd gen i. O'n i'n ymwybodol o'm cyfrifoldeb o wneud yn siwr bod e'n gweithio a bod y cyhoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi be o'n ni'n wneud. Mae hynny wedi digwydd, dw i'n meddwl."

Yn 2010, agorwyd adeilad newydd gan y Llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno hefyd. Mae penderfyniadau am addysg, iechyd a'r economi yn digwydd yma i roi cyfleoedd i gymunedau'r gogledd medd y Llywodraeth.

A bellach mae'r gwleidydd sy'n gyfrifol am y gogledd yn dweud mai datganoli mwy o rym yn lleol yw'r nod.

"I'm a firm believer in Devolution from Westminster to Cardiff, but from Cardiff to the regions of Wales. That doesn't cut against the purpose of having our Senedd. I think it enhances devolution."

Gan edrych tua'r dyfodol, beth mae rheini a theuluoedd Bae Colwyn am ei weld yn cael blaenoriaeth?

"O ran gofal plant, byddai ymestyn o'n syniad da. Gallen nhw cydlynu hwnna hefo rhoi mwy o bethau yn y Gymraeg am ddim.

"Mae lot o lefydd lle does 'na ddim digon o lefydd i fyw. Mae costau tai yn mynd i fyny ac i fyny ac mae 'na bryder am hynny. Dw i'n meddwl maen nhw eisiau gweld mwy o bethau Cymraeg a mwy o oriau yn y cylch, 'dan ni ond ar agor o 8.30yb tan 3.00yb."

"Efallai cael rhywbeth Cymraeg tan 5.00yp. Mae appetite mawr gan deuluoedd di-Gymraeg yn yr ardal yma i fynychu cylch meithrin a grwpiau Cymraeg.

"Ond eto, dw i'n teimlo bod 'na ddim ddigon o ddarpariaeth. Mae lot o bwysau ar famau a tadau mynd nôl i'r gwaith yn sydyn... ..felly bach o help hefo gofal plant ar ôl cyfnod mamolaeth." 

Gaddo dyfodol gwell oedd yr addewid, a'r sefydliad yn dal i ddysgu a datblygu wrth ateb gofynion pobl Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.