Newyddion S4C

Dros fil o yrwyr wedi eu dal yn torri'r cyfyngiad cyflymder 20mya ym mis Ebrill

09/05/2024
S4C

Cafodd mwy na mil o yrwyr eu dal yn torri’r cyfyngiad cyflymder 20mya yng Nghymru ym mis Ebrill, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Roedd hynny'n gynnydd ar fis Mawrth pryd y cafodd 655 eu dal.

Roedd ystadegau mis Ebrill yn cynnwys un gyrrwr gafodd ei ddal yn mynd dros 70mya mewn ardal 20mya, yn ôl y ffigyrau newydd gan GanBwyll.

Newidiodd y mwyafrif o ffyrdd preswyl ledled Cymru o fod yn 30mya i 20mya fis Medi diwethaf.

Darganfuwyd bod 1,057 yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder mewn ardaloedd 20mya ym mis Ebrill. 

Arweiniodd hyn at erlyn saith o bobl ac fe gafodd dros 1,000 gynnig sesiynau ymgysylltu.

Mae datganiad dywedodd GanBwyll eu bod nhw “yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau mewn ardaloedd lle mae'r terfyn cyflymder wedi newid o 30mya i 20mya. 

“Y nod yw helpu gyrwyr i addasu i'r newid.

“Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio dros y terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr rhwng cysylltiad neu bwyntiau ar ochr y ffordd a dirwy.

"Tra bydd gyrwyr yn cael cynnig ymgysylltu am ddim fel dewis arall, gallant wrthod, a fydd wedyn yn arwain at erlyniad. I'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r terfyn cyflymder i raddau mwy, ni fyddant yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu a byddant yn cael eu herlyn.

"Os bydd gyrwyr yn dewis yr ymgysylltiad, bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn rhoi cyflwyniad am ddim sy'n para tua 10 munud. 

"Ei nod yw hysbysu pobl am y newid yn y terfyn cyflymder rhagosodedig, y rhesymau y tu ôl i'r newid, a sut y gallant adnabod y ffyrdd lle mae'n berthnasol."

Newid

Daw'r ffigyrau diweddaraf wrth i’r Gweinidog Treftadaeth newydd, Ken Skates, gyflwyno adolygiad i'r polisi terfyn cyflymder 20mya.

Dywedodd ddiwedd fis Ebrill mai "gwrando yw'r flaenoriaeth yn syth i'r Ysgrifennydd y Cabinet ar 20mya".

Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn "gweithio mewn partneriaeth gyda chynghorau er mwyn cael newid wedi'i dargedu yng ngweithrediad 20mya”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.