Dyn o Ben Llŷn yn y llys ar gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus
Mae dyn o Ben Llŷn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol i ddau o bobl drwy yrru’n beryglus.
Mae Geraint Priestley, 20 oed, o Forfa Nefyn wedi ei gyhuddo o achosi’r anafiadau wedi i’w gerbyd Land Rover wyro i mewn i gar Paul a Linda Baker ar ffordd yr A497, Boduan, ar Ddydd San Steffan 2022.
Clywodd y llys fod Mr a Mrs Baker ar wyliau yn yr ardal ar y pryd ac yn teithio gyda’u mab i gyfeiriad Abersoch.
Fe ddioddefodd y ddau nifer o anafiadau yn y gwrthdrawiad.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon dydd Iau, plediodd Mr Priestley yn ddieuog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd ei achos ei gyfeirio gan yr ynadon i Lys y Goron Caernarfon, lle bydd gwrandawiad ar 10 Mehefin.