Newyddion S4C

Teyrngedau i'r 'llais tu ôl i'r llwyfan', Edwin Jones, yn dilyn ei farwolaeth

09/05/2024
Edwin Jones

Mae'r "llais y tu ôl i lwyfan" y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, Edwin Jones wedi marw.

Cyhoeddodd yr Eisteddfod deyrnged i Mr Jones fore Iau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Rydyn ni'n cofio am un o'r goreuon, Edwin Jones, y llais y tu ôl i lwyfan y Pafiliwn am flynyddoedd yn sicrhau fod popeth yn rhedeg yn llyfn gyda'i bresenoldeb gofalus. 

"Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Eirian, y teulu a ffrindiau, ac yn diolch i chi am bopeth."

Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, roedd ef a'i wraig Eirian wedi cael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn 2009.

Bu'r ddau yn gwneud y gwaith ers Eisteddfod Bro Delyn yn Yr Wyddgrug yn 1991.

'Edwin Llwyfan'

Dewis Edwin o enw iddo'i hun pan urddwyd i'r orsedd oedd 'Edwin Llwyfan'.
 
Yn feirniad a gwirfoddolwr mewn eisteddfodau Urdd Gobaith Cymru am ddegawdau, derbyniodd ef a'i wraig Fedal Goffa John a Ceridwen Hughes ar y cyd fel cydnabyddiaeth am eu gwasanaeth i'r mudiad.
 
Mewn teyrnged, dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru: "Bu Edwin, gyda'i wraig Eirian, yn chwarae rôl hanfodol dros y blynyddoedd yn rhedeg Eisteddfodau Cylch Edeyrnion, Sir Ddinbych a Rhanbarth Uwchradd Fflint a Wrecsam.

"Bu'n beirniadu ac yn gwirfoddoli am flynyddoedd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac mae miloedd o blant a phobl ifanc wedi perfformio ei sgriptiau yn y cystadlaethau ymgomau o Eisteddfod i Eisteddfod.
 
"Yn 2000, Edwin ac Eirian oedd enillwyr teilwng Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, am eu cyfraniad aruthrol i waith ieuenctid yn lleol ac yn genedlaethol.
 
"Mi fydd colled mawr ar ei ôl. Diolch am bopeth, Edwin."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.