Newyddion S4C

Protestiadau ym mhrifysgolion ar draws America o blaid Palestina

03/05/2024

Protestiadau ym mhrifysgolion ar draws America o blaid Palestina

"We have seen a couple of people detained. As you can see..."

Trais ac anrhefn. Yr olygfa dros nos a ben bore ym Mhrifysgol California Los Angeles. Yr heddlu ag ergydion swnllyd nwy a nerth yn ceisio clirio cannoedd o brotestwyr oedd wedi gosod pebyll, creu gwersyll er mwyn codi llais ar ran Palesteiniaid yn Gaza.

Erbyn tua phedwar o'r gloch y bore fe lwyddodd swyddogion i dorri trwy faricêd pren gan arestio dwsinau o fyfyrwyr. Mae ymateb yr heddlu wedi'i feirniadu gan nifer.

"It's completely illegitimate. In the so-called land of the free, students come out to protest the crimes of their government and they get repressed."

Pen arall y wlad prynhawn 'ma a champws addysg uwch yn yr Unol Daleithiau eto yn ganolbwynt i'r gwrthdystio. Y tro hwn yn Washington.

"Mae'r myfyrwyr yn fan hyn yn galw ar bobl ifanc dros yr Unol Daleithiau a'r byd i ddod allan a bod yn unedig yn erbyn be sy'n digwydd yn Gaza.

"Maen nhw'n gweld Joe Biden yn rhywun sy'n gyfrifol am be sy'n digwydd yn Gaza. Dydyn nhw'm yn teimlo bod Joe Biden na'r llywodraeth yn cynrychioli nhw fel pobl ifanc."

Mae'r myfyrwyr yn awyddus i weld prifysgolion yn torri eu cysylltiadau ariannol gyda sefydliadau a chwmniau Israelaidd. Ac wrth alw am Gadoediad yn Gaza maen nhw'n anfodlon ar gefnogaeth y mae llywodraeth Joe Biden yn ei rhoi i Israel.

Heddiw, heb unrhyw barodrwydd i newid ei bolisi, beirniadu protestio treisgar nath yr arlywydd.

"Let me be clear. "Peaceful protest in America. Violent protest is not protected but peaceful protest is. It's against the law when violence occurs. Destroying property is not a peaceful protest."

Mae 'na hanes yma o brotestio. Tebyg oedd y golygfeydd adeg cyfnod y rhyfel yn Vietnam. Mae un Cymro sy'n treulio cyfnod ym Mhrifysgol Harvard yn tynnu cymariaethau.

"Mae'r myfyrwyr sydd mas yn protestio ar hyn o bryd yn gweld eu hunain yn rhan o draddodiad yn ymestyn nôl i '68. Protestiadau gwrth-Vietnam ac ati, gwrth-Apartheid.

"Mae campws prifysgol yn lle i ddatblygu syniadau gwleidyddol ac i geisio gweithredu o blaid syniadau o'r fath. Yn hynny o beth dw i'n meddwl yn sicr bydd myfyrwyr yn gweld eu hunain yn rhan o draddodiad cyfiawnder sydd wedi llwyddo i ddylanwadu ar hynt hanes."

Mewn degau o brifysgolion cynyddu mewn nifer a chryfder mae'n ymddangos y mae'r protestiadau. O Yale i Portland, Wisconsin i Texas. Gyda sylwebyddion gwleidyddol yn tybio y gallai'r symudiad yma gael effaith ar yr etholiad arlywyddol sydd i ddod mewn 6 mis.

"Sa i'n credu bod e'n gorddweud ond mae'r golygfeydd ni'n gweld ar brifysgolion ledled y wlad yn teimlo fel moment fawr. Fi'n credu bydd pobl yn trafod ymateb yr awdurdodau.

"A bydd yr hyn mae'r protestwyr yn neud yn para am sbel."

Mae gwrth-semitiaeth ar gynnydd yma ochr yn ochr â rhagor o achosion o Islamoffobia. A'r don o anniddigrwydd yn dal i ledaenu o gampws i gampws ar draws Gogledd America.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.