Newyddion S4C

Byw gydag alopecia: 'Cysur bod yn gefn i rywun arall'

03/05/2024

Byw gydag alopecia: 'Cysur bod yn gefn i rywun arall'

"Mae'n gysur i fi cael bod yn gefn i rywun arall achos dyna be' o'n i'n colli pan o'n i'n colli fy ngwallt."

Mae dynes ifanc o Ynys Môn sy'n byw gydag alopecia yn gobeithio cynnig cysur a chymorth i bobl eraill sy'n dioddef o'r cyflwr. 

Mae Nicole Thomas yn 27 oed ac yn wreiddiol o Borthaethwy, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. 

Derbyniodd Nicole ddiagnosis o alopecia areata yn 13 oed, ac mae wedi profi cyfnodau o golli ei gwallt ers hynny. 

Mae'r gair alopecia yn golygu moel, ac areata yn golygu bylchog, neu patchy. Nid yw'n glir beth yn union sy'n achosi'r cyflwr, ond y gred yw ei fod yn glefyd awtoimiwn. 

Mae'n effeithio o gwmpas 15 ymhob 10,000 o bobl yn y DU yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), ond mae'r elusen Alopecia UK wedi rhybuddio bod pobl sydd â'r cyflwr yn dal i wynebu heriau mawr cyn derbyn triniaeth effeithiol.

Image
Nicole
Derbyniodd Nicole ddiagnosis o alopecia areata yn 13 oed. Llun: Nicole Thomas

Roedd Nicole wedi derbyn triniaeth am y cyflwr am bedair blynedd yn yr ysbyty ar ôl ei diagnosis, gan gynnwys elïau bob wythnos yn ogystal â phigiadau i fewn i'w phen.

"Yn fy arddegau, oedd o'n rili anodd i ddelio efo, ag yn sbïo nôl ar y sefyllfa rwan, 'swn i'n deud bo' fi wedi profi bach o iselder sy'n rili bechod," meddai wrth Newyddion S4C.

"Pan ti'n teenager, ti'm isio delio efo petha' mawr y byd, ti isio delio efo'r petha' bach fel mynd allan efo dy ffrindia' a neud yn dda yn TGAU  so mae o'n rili drist i sbïo nôl, a hefyd toedd 'na neb o'n i'n gallu sbïo ar y cyfryngau cymdeithasol neu ffrindiau neu teulu oedd yn profi colli gwallt, neu alopecia areata."

Image
Nicole
Gwallt naturiol Nicole. Llun: Nicole Thomas

Fe gafodd Nicole lot o'i gwallt yn ôl erbyn iddi ddechrau'r Chweched Dosbarth, ac mae ei chyflwr wedi bod yn sefydlog dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Ond mae Nicole wedi dechrau profi colled gwallt sylweddol dros y 18 mis diwethaf. 

Er yn benderfyniad anodd, fe benderfynodd yn gynharach eleni nad oedd hi eisiau cuddio'r golled yma bellach. 

"Oedd o ym mis Chwefror ella, ag oedd fi a fy mhartner yn gwylio'r Chwe Gwlad. O'n i'n eistedd ar y soffa ag o'n i jyst yn rhedag fy llaw trwy fy ngwallt a nes i deimlo patch reit yn y top...patch moel o'dd o yn dechra, bach bach," meddai Nicole wrth Newyddion S4C

"Ond am tua naw mis, dwi wedi bod yn cuddio y colled yn reit dda, achos mae'r golled wedi bod yn y cefn ag o dan.

"So dwi'n meddwl o'dd hynna yn foment massive i fi feddwl: 'Ma' genna fi ddau opsiwn, dwi'n trio cuddiad o yn gwisgo wigs a peidio siarad amdana fo a teimlo yn rili unig eto neu dwi'n dechra siarad amdana fo, a neud o'n blaen bo' fi yn colli fy ngwallt.'"

Image
Nicole Thomas
Mae Nicole wedi dechrau profi colled gwallt sylweddol dros y 18 mis diwethaf. Llun: Nicole Thomas

Mae Nicole wedi penderfynu dogfennu ei phrofiad o fyw gyda alopecia drwy bostio fideos cyson ar blatfform TikTok.

"O'dd 'na loads o ffactorau i pam nes i ddechrau'r cyfrif TikTok. O'n i'n gweld lot o ferched oedd 'di colli eu gwallt nhw yn gyfan gwbl a to'n i methu relateio i nhw rili achos o'n i dal yn trio cuddiad fy hun a cuddiad tu ôl i'r gwallt oedd genna fi," meddai. 

"Dwi'n meddwl peidio gweld pobl fel fi - oedd hynna yn motivation mawr 'swn i'n deud."

Mae'r ymateb i'r fideos wedi bod yn anhygoel yn ôl Nicole. 

"Dwi heb gael unrhyw comment drwg a hefyd tan dwi wedi troi yn 27 oed, dwi erioed wedi siarad efo neb sydd efo alopecia areata. Dwi 'di cael cannoedd o negeseuon gan genod yn eu harddegau a mamau," meddai. 

"Dwi 'di eistedd yn crio ar y negeseuon achos ma' nhw jyst mor lyfli, ma' pobl jyst 'di bod mor ffeind.

"Dyna be' o'n i'n colli pan o'n i'n colli fy ngwallt pan o'n i'n teenager oedd bo' genna fi neb i siarad efo." 

Image
Nicole
Mae Nicole wedi derbyn cannoedd o negeseuon yn ymateb i'w fideos. Llun: Nicole Thomas

Gall alopecia effeithio ar ddynion a merched o unrhyw oed, ac mae Nicole yn gobeithio cynnig cysur a chymorth i unrhyw un sy'n wynebu heriau tebyg drwy rannu ei phrofiad hi. 

"Dwi'n gwbod bod o'n her mawr i fi goro ffilmio fy hun, ond dwi'n goro meddwl hefyd - os oes 'na un person arall yn gweld fideo fi ag yn meddwl 'O ia, dwi'n edrych fel hynna' ...'Dwi'n edrych fel hi'...'Ma' hyn yn fwy normal na be' o'n i'n feddwl', ma' hynna yn rili bwysig a dwi'n meddwl bod o'n win massive," meddai. 

"Os oes 'na jyst yn person yn gweld fideo fi a teimlo rhyw fath o gysur, mae o i gyd werth o."

Image
Nicole
Mae Nicole yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Llun: Nicole Thomas

Mae angen ystyried yr effaith y mae'r cyflwr yn ei gael ar iechyd meddwl person yn ôl Nicole. 

"Mae 'na lot o broblemau iechyd meddwl yn dod hefo colli dy wallt. Dwi'n meddwl bo' rhaid i ni gysidro hynna mwy pan 'dan ni'n ystyried y fath o gefnogaeth ma' pobl angen," meddai. 

"Dwi definitely wedi teimlo yn isel oherwydd fy ngwallt ond dwi'n meddwl bo' pobl ddim rili yn meddwl bod o'n bwysig achos tydi alopecia ddim yn bygwth bywyd yn uniongyrchol, ond hefo problemau iechyd meddwl, ma'n gallu bod yn rwbath rili rili peryglus."

Image
Nicole
Nicole gyda'i Mam. Llun: Nicole Thomas

Cyhoeddwyd ym mis Chwefror fod yna feddyginiaeth ar gyfer alopecia yn cael ei argymell ar y GIG am y tro cyntaf. 

Fe allai’r pil dyddiol o’r enw Ritlecitinib neu Litfulo helpu miloedd o bobl sy’n dioddef o’r cyflwr, ac fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cyffur ar gael yng Nghymru hefyd. 

Dywedodd Prif Weithredwr Alopecia UK Sue Schilling: "Yn anffodus, mae ein cymuned yn wynebu heriau mawr gan gynnwys anhawsterau yn cael atgyfeiriad at ddermatolegydd gan eu Meddyg Teulu ac amseroedd aros dermatoleg annerbyniol mewn rhai ardaloedd. 

"Fe fydd Alopecia UK yn gwneud yr hyn mae'n gallu gyda'r adnoddau prin a'r capasiti ar gael. Mae'r esgus o beidio cael unrhyw driniaeth trwyddedig ar gael bellach wedi mynd. Mae cleifion alopecia areata yn haeddu gwell triniaeth ac mae'n amser iddynt ddechrau derbyn hyn."

Neges Nicole i unrhyw un sy'n dioddef o'r cyflwr fyddai i siarad gydag eraill. 

"Siarad efo pobl, dydi hyn ddim yn meddwl bo' chdi'n gorfod mynd ar TikTok a creu fideos a dangos patches moel chdi i'r byd ond siarad efo rhywun ti'n trustio, Mam, Dad, chwaer, ffrindiau, athro neu athrawes, rywun 'dach chi'n trustio a ti'n gallu rhannu dy broblemau efo," meddai. 

"Mae o'n rwbath massive i fynd drwydda fo, felly siarad. Os fyswn i wedi neud mwy o siarad, fysa hynna wedi helpu fi lot."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.