Newyddion S4C

Lee Waters: 'Angen i Vaughan Gething ddychwelyd y rhoddion'

01/05/2024

Lee Waters: 'Angen i Vaughan Gething ddychwelyd y rhoddion'

Mae'r Aelod o'r Senedd Llafur dros Lanelli Lee Waters wedi dweud y dylai Vaughan Gething ddychwelyd y rhoddion a gafodd eu rhoi yn ystod ei ymgyrch i ddod yn brif weinidog Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Mr Waters: "Gall y sefyllfa hon gael ei gwneud yn iawn, dwi'n gobeithio y gall hi gael ei datrys. Ond y cam cyntaf i ddatrys unrhyw broblem ydi cydnabod fod yna broblem. 

"Ni fyddai'n arwydd o wendid i ddweud mai camgymeriad oedd cymryd y rhodd a gan bod y ffeithiau wedi eu sefydlu bellach, y dylid rhoi'r arian yn ôl. Gall hyn gael ei wneud o hyd. 

"Yn fy marn i, dylid gwneud hynny, ac weithiau, gwneud y peth iawn ydi'r peth anoddaf ond anaml iawn fyddwch chi'n difaru gwneud hyn yn y diwedd."

Daw ei sylwadau wedi i gwestiynau godi ynglŷn ag ymgyrch Mr Gething i olynu Mark Drakeford yn swydd arweinydd Llafur Cymru. 

Yn ystod y ras, fe ddaeth i’r amlwg bod ei ymgyrch wedi derbyn rhodd o £200,000 gan y Dauson Environmental Group. 

Mae cyfarwyddwr y grŵp eisoes wedi cael ei ddyfarnu’n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Vaughan Gething wedi dweud yn gyson “nad oedd rheolau wedi cael eu torri” wrth dderbyn y rhodd.

Mae'r Blaid Lafur eisoes wedi cyhoeddi y bydd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones yn arwain adolygiad mewnol i'r Blaid Lafur o roddion yn ystod ymgyrchoedd arweinyddiaeth. 

Dywedodd aelod Llafur arall, Alun Davies, fod Lee Waters wedi gwneud "pwyntiau pwysig" a gofynodd a oedd angen ystyried gosod meini prawf pwy oedd yn "berson priodol" i dderbyn rhoddion ganddyn nhw.  

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r bennod yma'n codi pryderon ehangach am iechyd sylfaenol ein democratiaeth. Mae 'na berygl o rhywbeth gwenwynig yn digwydd i ddemocratiaeth yn fan hyn. Mae diffyg rheoleiddio cyllid mewn gwleidyddiaeth yn broblem."

Ychwanegodd ei fod yn "siomedig" nad oedd Vaughan Gething yn bresennol am ran o'r drafodaeth yn y Senedd ddydd Mercher am roddion i wleidyddion unigol.

Ond ddydd Mercher cafodd cynnig i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r mater ei wrthod gan y Senedd. Yn ogystal, cafodd cynnig Plaid Cymru i gyfyngu ar faint rhoddion i wleidyddion unigol ei wrthod gan y Senedd wedi'r drafodaeth.

Mae Beth Winter, AS Llafur Cwm Cynon, eisoes wedi dweud na ddylai Vaughan Gething fod wedi derbyn yr arian ac y dylai ei roi yn ôl.

Ychwanegodd bod yna “bob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb” am y penderfyniad i dderbyn y rhoddion.

“Dyle fe ddim bod wedi derbyn yr arian. Dyle fe roi’r arian yn syth yn ôl.

“A derbyniodd e’r arian gan rywun sy’n euog o droseddau amgylcheddol. Ac mae bob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb.”

Ychwanegodd: “A da ni angen ymchwiliad annibynnol – dwi’n cytuno fod angen un.

“Dw i’n becso fod rhywun wedi derbyn mor gymaint o arian am etholiad mewnol. Dros £200,000." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.